Description: Heather logo portraitCynulliad Cenedlaethol Cymru

Y Pwyllgor Busnes

Rhagfyr 2012

 

 


Adroddiad ar yr amserlen ddiwygiedig ar gyfer ystyried Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru)

1.    Ar 26 Tachwedd 2012, gosododd y Pwyllgor Busnes adroddiad, yn unol â Rheol Sefydlog 26.7, yn nodi 8 Mawrth 2013 fel dyddiad cau i'r Pwyllgor Cymunedau, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol ystyried yr egwyddorion cyffredinol y Bil Llywodraeth Leol (Democratiaeth) (Cymru) ac adrodd arnynt.

2.    Ar 4 Rhagfyr 2012, cytunodd y Pwyllgor Busnes i osod adroddiad diwygiedig ac i newid y dyddiad cau i'r Pwyllgor adrodd yn ôl i'r Cynulliad i 22 Mawrth 2013.

3.    Cytunodd y Pwyllgor Busnes hefyd y dylid cwblhau trafodion Cyfnod 2 erbyn 24 Mai 2013, ar yr amod bod y Cynulliad yn cytuno ar egwyddorion cyffredinol y Bil.